BBC Article – ‘Mynd allan i werthu, nid i ofyn’
BBC Article – Going out to sell, not to ask'( translated by Google)
Translated English Article first .
Welsh Article after
Going out to sell, not to ask ( translated by Google)
Wales needs to do more to develop indigenous businesses, along with the encouragement of foreign investment, according to one Welshman who works as a financial expert in Japan.
Tony Evans, originally from Penrhyndeudreath, settled in Tokyo for eight years.
As the Welsh Government trade mission began in Japan, says Mr Evans said: “Companies in Japan with a lot of cash on their balance sheets, so they look for investments but they want something it’ll do brass, it does’ they do not invest just to invest. ”
“They’ve invested a lot in Britain a lot already … in manufacturing, cars … they look at nuclear energy …
“Over 400 years of relations between Britain and Japan this year (the East India Company traveled to Japan in 1613), that is a terrible one big thing, and they put a lot of emphasis on the relationship they’re know that is safe. ”
Optimism
Continue reading the main story
“Start Quote
It wants to go out and say what the Government can offer to Japan and go out and sell – not going out to ask, but going out to sell ”
Tony Evans
Financial Specialist in Japan
There has been very significant economic growth during “economic miracle” Japan in the 60s, 70s and 80au’r twentieth century. Japan economy average growth slowed in the nineties, but continued to grow at the beginning of the new millennium before falling into recession three times since 2008 – the last time in 2011 after the earthquake and tsunami .
But Tony Evans is optimistic about the economic future of his adopted country, mainly because of the attitude of the Prime Minister, Shinzo Abe:
“The prime minister, has said that doing something about it – Japan has been in recession for twenty years, and people are fed up.
“The Abe wants the country to grow more, want to make an investment, wants to change the way things are happening here and now he has put Kuroda at the Bank of Japan and he is exactly the same …
“One thing a lot of people does not know, it was Kuroda, governor of the Bank of Japan, at Oxford university and therefore has a western attitude towards policies, and that is a good thing in Japan – Japanese face with western policies. ”
Lessons from Japan
So if Japan would benefit from some aspects of western why Wales can learn from Japan?
According to Tony Evans, would be more apprenticeships boost for the Welsh economy. It is a system that is highly successful in Japan said. It is also necessary to change attitudes of students and graduates:
“There has been too much emphasis on getting people to go from universities within the Civil Service, to go into a job not to create jobs, the emphasis on going to university to get a degree in something, not a lot of apprenticeships, tase more skills so then the economy (Welsh) raises its own … ”
It offers the following advice to Edwina Hart at the beginning of her visit to Japan: “We need to go talk to companies at home here already.’s British Chamber of Commerce here, St. David’s Society here.
“There’s a lot of connections here, and wants to go out and say what the Government can offer to Japan and go out and sell – not going out to ask, but go out and sell.”
‘Growing existing sector’
While he supported any effort to attract new investments from Japan to Wales, living away from home has given another perspective to Mr Evans at what Wales should concentrate in order to grow its economy in the future.
“Having investments from outside is one thing, but we also need to work more with businesses, and universities, for more entrepreneurship.”
He also argued in favor of focusing on specific sectors – technology is an obvious one says, but also “natural resources, new energy, green energy, ma ‘That’s one thing.’s Still a load of coal, things that they’d be can do.
“A lot of good land in Wales to grow, to raising livestock. The world is growing, and people want to eat – Wales could do better in the food sector. Growing sector is already there and making of ‘ n more.
“As the middle class expands, there are 2 billion people want to get into the middle class, as they come in, so they will change their attitude towards food. Not enough food to go round the world, Wales place with good land, with the skills to move forward. ”
Ideas that the Welsh Government chew on them? It may already be thinking along similar lines – Abergavenny Fine Foods is a food company, Teddington Engineered Solutions and supplying equipment for the power industry is part of the trade mission.
Alongside them on the trip, companies Clogau Gold, ISCA UK that produce chemicals, which IQE produces semiconductors (SEMICONDUCTORS), Reid Lifting is lifting equipment development, design and Weaving Mill company Tregwynt, and clinical research company Simbec Research.
Mynd allan i werthu, nid i ofyn’
10 Mehefin 2013 Diweddarwyd 07:06
‘Mynd allan i werthu, nid i ofyn’
“Mae angen mwy o bwyslais ar dechnoleg a defnyddio technoleg”
Parhau gyda’r brif stori
Straeon Perthnasol
Angen i Gymru fod yn amlwg ar fap y byd Watch
Yr economi yng Nghymru
Adran hybu busnes o dan y lach
Mae angen i Gymru wneud mwy i ddatblygu busnesau cynhenid, ochr yn ochr ag annog buddsoddiad o dramor, yn ôl un Cymro sy’n gweithio fel arbenigwr ariannol yn Japan.
Mae Tony Evans, sy’n wreiddiol o Benrhyndeudraeth, wedi ymgartrefu yn Tokyo ers wyth mlynedd.
Wrth i daith fasnach Llywodraeth Cymru gychwyn yn Japan, dywed Mr Evans: “Mae cwmnïau yn Japan hefo llwyth o arian ar eu balance sheets, felly maen nhw’n edrych am fuddsoddiadau ond maen nhw eisiau rhywbeth neith neud pres, wna’ nhw ddim buddsoddi jyst er mwyn buddsoddi.”
“Maen nhw wedi buddsoddi lot ym Mhrydain lot yn barod… yn manufacturing, ceir… maen nhw’n edrych ar ynni niwclear…
“Mae dros 400 o flynyddoedd o berthynas rhwng Prydain a Japan flwyddyn yma (teithiodd yr East India Company i Japan yn 1613), mae hynna’n un peth mawr ofnadwy, ac maen nhw’n rhoi lot o bwyslais ar berthynas ma nhw’n gwybod sydd yn saff.”
Optimistiaeth
Parhau gyda’r brif stori
“
Start Quote
Mae eisio mynd allan a dweud beth y mae Cymru yn gallu ei gynnig i Japan a mynd allan a gwerthu – nid mynd allan i ofyn, ond mynd allan i werthu”
Tony Evans
Arbenigwr ariannol yn Japan
Bu twf economaidd sylweddol iawn yn ystod “gwyrth economaidd” Japan yn 60au, 70au ac 80au’r ugeinfed ganrif. Arafodd twf cyfartalog economi Japan yn y nawdegau, ond parhaodd i dyfu ar ddechrau’r mileniwm newydd cyn syrthio i ddirwasgiad deirgwaith ers 2008 – y tro diwethaf yn 2011 wedi’r daeargryn a tsunami.
Ond mae Tony Evans yn optimistaidd ynghylch dyfodol economaidd ei wlad fabwysiedig, yn bennaf oherwydd agwedd y Prif Weinidog, Shinzo Abe:
“Mae’r prif weinidog, wedi dweud bod rhaid neud rhywbeth amdano fo – mae Japan wedi bod mewn dirwasgiad ers ugain mlynedd, ac mae pobl wedi cael llond bol.
“Mae Abe eisiau cael y wlad i dyfu fwy, eisiau neud buddsoddi, eisiau newid y ffordd mae pethau’n digwydd yma a nawr mae e wedi rhoi Kuroda yn y Bank of Japan ac mae e’n union yr un peth…
“Un peth dydy lot o bobl ddim yn gwybod, roedd Kuroda, llywodraethwr Bank of Japan, yn Rhydychen yn y brifysgol ac felly mae ganddo agwedd orllewinol tuag at bolisïau, ac mae hynna’n beth da yn Japan – polisïau gorllewinol gydag wyneb Japaneaidd.”
Gwersi o Japan
Felly os ydy Japan yn elwa o rai agweddau gorllewinol, beth all Cymru ei ddysgu o Japan?
Yn ôl Tony Evans, byddai cael mwy o brentisiaethau yn hwb i economi Cymru. Mae’n system sy’n hynod lwyddiannus yn Japan meddai. Mae hefyd angen newid agweddau myfyrwyr a graddedigion:
“Mae gormod o bwyslais wedi bod ar gael pobl o’r prifysgolion i fynd fewn i’r civil service, i fynd fewn i job nid i greu jobs, pwyslais ar fynd i brifysgol i gael gradd mewn rhywbeth, dim lot o apprenticeships, tase mwy o sgiliau fel yna byddai’r economi (Gymreig) yn codi ei hun…”
Mae’n cynnig y cyngor canlynol i Edwina Hart ar ddechrau ei hymweliad â Japan: “Mae angen mynd i siarad hefo cwmnïau o gartre’ sydd yma yn barod. Mae Chamber of Commerce Prydeinig yma, mae Cymdeithas Dewi Sant yma.
“Mae yna lot o gysylltiadau yn fan hyn, ac mae eisio mynd allan a dweud beth y mae Cymru yn gallu ei gynnig i Japan a mynd allan a gwerthu – nid mynd allan i ofyn, ond mynd allan i werthu.”
‘Tyfu sector sydd yno’n barod’
Tra ei fod yn cefnogi unrhyw ymgais i ddenu buddsoddiadau newydd o Japan i Gymru, mae byw oddi cartref wedi rhoi persbectif arall i Mr Evans ar yr hyn y dylai Cymru ganolbwyntio arno er mwyn tyfu ei heconomi yn y dyfodol.
“Mae cael buddsoddiadau o’r tu allan yn un peth, ond hefyd mae angen gweithio mwy hefo busnesau, a phrifysgolion, i gael mwy o entrepreneurship.”
Roedd hefyd yn dadlau o blaid canolbwyntio ar sectorau penodol – mae technoleg yn un amlwg meddai, ond hefyd “natural resources, egni newydd, egni gwyrdd, ma’ hynna’n un peth. Mae dal llwyth o lo, pethau y basen nhw’n medru neud.
“Ma’ lot o dir da yng Nghymru i dyfu, i fagu anifeiliaid. Mae’r byd yn tyfu, ac mae pobl eisio bwyta – gallai Cymru neud yn well yn y sector fwyd. Tyfu sector sydd yno’n barod a gwneud o’n fwy.
“Wrth i’r dosbarth canol ehangu, mae 2 biliwn o bobl eisiau dod mewn i’r middle class, wrth iddyn nhw ddod fewn, neith eu hagwedd at fwyd newid. Does dim digon o fwyd i fynd rownd y byd, mae Cymru yn lle hefo tir da, hefo’r sgiliau i fwrw ymlaen.”
Syniadau y dylai Llywodraeth Cymru gnoi cil arnyn nhw? Efallai ei bod eisoes yn meddwl ar hyd llinellau tebyg – mae cwmni bwyd Abergavenny Fine Foods, a Teddington Engineered Solutions sy’n cyflenwi cyfarpar ar gyfer y diwydiant ynni yn rhan o’r daith fasnach.
Ochr yn ochr â nhw ar y daith, mae cwmniau Aur Clogau, ISCA UK sy’n cynhyrchu cemegau, IQE sy’n cynhyrchu lled-ddargludyddion (semiconductors), Reid Lifting sy’n datblygu cyfarpar codi, cwmni dylunio a gwehyddu Melin Tregwynt, a chwmni ymchwil clinigol Simbec Research.

Like this:
Like Loading...
You must be logged in to post a comment.